Artificial Intelligence/ Deallusrwydd Artiffisial – Adapted and translated for the Curriculum for Wales

The primary computing unit: Computer systems and networks: Artificial Intelligence is now available in Welsh, with specific changes made for the Curriculum for Wales, thanks to Lafan Education Consultancy

Mae’r uned gyfrifiadura cynradd: Systemau cyfrifiadurol a rhwydweithiau: Deallusrwydd Artiffisial bellach ar gael yn Gymraeg, gyda newidiadau penodol wedi’u gwneud ar gyfer Cwricwlwm i Gymru, diolch i Lafan Addysg.

This 5 lesson unit has been adapted from the English National Curriculum structure, to the Digital Competency Framework and Science and Technology Area of Learning in the Curriculum for Wales.

Mae’r uned 5 gwers hon wedi’i haddasu o strwythur Cwricwlwm Cenedlaethol Lloegr i gyd-fynd â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a’r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn y Cwricwlwm i Gymru.

This scheme of work is designed for learners working at Progression Step 3, but is easily adaptable for Progression Step 4 learners. It is completely free to download. Please use this link to access the resources:

Mae’r cynllun gwaith hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr ar Gam Cynnydd 3, ond gellir ei addasu’n hawdd ar gyfer Cam Cynnydd 4. Mae ar gael yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad at yr adnoddau:

Dolen lawrlwytho ar gyfer yr Uned AI/ Download link for the AI Unit

About this unit of lessons:

Children will learn what Artificial Intelligence (AI) is and how it enables machines to learn from data. Pupils will understand that AI tools are for enhancing and augmenting human thinking, not replacing it. They will explore ways to approach AI safely, understanding data protection and knowing how to ask for help or support. Students will also develop skills to identify what is real and fictional when interacting with AI, using critical thinking to spot misinformation. They will also explore bias, hallucinations and understand the concern over the anthropomorphism and personification of AI. In addition, pupils will practically engage in machine learning activities online, and unplugged activities in the classroom and design their own AI system with an ethical approach.

Ynglŷn â’r uned hon o wersi

Bydd plant yn dysgu beth yw Deallusrwydd Artiffisial (AI) a sut mae’n galluogi peiriannau i ddysgu o ddata. Bydd dysgwyr yn deall bod offer AI wedi’u cynllunio i wella ac ehangu meddwl dynol, nid i’w ddisodli. Byddant yn archwilio sut i ddefnyddio AI yn ddiogel, gan ddeall pwysigrwydd diogelu data a gwybod sut i geisio cymorth a chefnogaeth pan fo angen. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu’r sgiliau i adnabod beth sy’n real a beth sy’n ffuglen wrth ryngweithio ag AI, gan ddefnyddio meddwl beirniadol i ganfod camwybodaeth. Byddant yn archwilio rhagfarn (bias), rhithwelediadau AI (hallucinations) ac yn deall y pryderon sy’n gysylltiedig ag anthropomorffeiddio a phersonoli systemau AI. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu peirianyddol ymarferol ar-lein ac mewn gweithgareddau di-dechnoleg yn yr ystafell ddosbarth. Byddant hefyd yn dylunio eu system AI eu hunain gan ystyried egwyddorion moesegol wrth wneud hynny.

Curriculum links

This unit supports progression within the Science and Technology Area of Learning and Experience, particularly through its emphasis on problem-solving, design, data, digital systems and the ethical implications of technology. Learners revisit and build on prior knowledge as they explore increasingly complex ideas about AI, machine learning and digital decision-making.

PS3 Learners should have opportunities to:

  • understand how digital devices can be interconnected locally and globally, and how the internet provides opportunities for communication and collaboration
  • use search technologies effectively and be discerning in evaluating digital content, including the importance of accurate and reliable data and how data is used by services
  • select, use and combine software and digital devices to design and create programs, systems and content, including following and creating algorithms, explaining errors, and collecting, analysing, evaluating and presenting data and information
  • use computational thinking techniques, through unplugged or offline activities.
  • use technology safely, respectfully and responsibly, including securing the technology they use, protecting the integrity of their data, and making informed decisions about how their data is used by services.

This unit is aligned to the current Digital Competence Framework and reflects emerging Welsh Government and Hwb guidance on the safe, ethical and purposeful use of AI in education. Future updates to the DCF or national guidance should be reviewed as they are published.

This unit will include teaching and learning from all four strands within in the DCF: Citizenship (understanding how to stay safe with AI, being a discerning user and understanding bias and ethics within AI), Interacting and Collaborating (discussion, communication and shared digital tasks), Producing (planning, creating and refining digital outputs using some basic AI/machine learning tools) and Data and Computational Thinking (using data, classification and algorithms to train, test and improve AI models).

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Mae’r uned hon yn cefnogi dilyniant o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn enwedig trwy ei phwyslais ar ddatrys problemau, dylunio, data, systemau digidol a goblygiadau moesegol technoleg. Mae dysgwyr yn ailymweld ac yn adeiladu ar wybodaeth flaenorol wrth iddynt archwilio syniadau cynyddol gymhleth am AI, dysgu peirianyddol a gwneud penderfyniadau digidol.

Dylai dysgwyr CC3 gael cyfleoedd i:

  • ddeall sut y gellir rhyng-gysylltu dyfeisiau digidol yn lleol ac yn fyd-eang, a sut mae’r rhyngrwyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer cyfathrebu a chydweithio
  • defnyddio technolegau chwilio yn effeithiol a bod yn ddirnad wrth werthuso cynnwys digidol, gan gynnwys pwysigrwydd data cywir a dibynadwy a sut mae data yn cael ei ddefnyddio gan wasanaethau
  • dewis, defnyddio a chyfuno meddalwedd a dyfeisiau digidol i ddylunio a chreu rhaglenni, systemau a chynnwys, gan gynnwys dilyn a chreu algorithmau, esbonio gwallau, a chasglu, dadansoddi, gwerthuso a chyflwyno data a gwybodaeth
  • defnyddio technegau meddwl cyfrifiadurol, trwy weithgareddau heb dechnoleg neu oddi ar-lein
  • defnyddio technoleg yn ddiogel, yn barchus ac yn gyfrifol, gan gynnwys diogelu’r dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio, diogelu uniondeb eu data, a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut mae eu data yn cael ei ddefnyddio gan wasanaethau.

Mae’r uned hon yn cyd-fynd â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol presennol ac mae’n adlewyrchu canllawiau Llywodraeth Cymru a Hwb sy’n dod i’r amlwg ar ddefnydd diogel, moesegol a phwrpasol o ddeallusrwydd artiffisial mewn addysg. Dylid adolygu diweddariadau i’r FFCD neu’r canllawiau cenedlaethol yn y dyfodol wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

Bydd yr uned hon yn cynnwys addysgu a dysgu o’r pedwar llinyn o fewn y FFCD: Dinasyddiaeth (deall sut i gadw’n ddiogel gydag AI, bod yn ddefnyddiwr craff a deall rhagfarn a moeseg o fewn AI), Rhyngweithio a Chydweithio (trafod, cyfathrebu a chwblhau tasgau digidol a rennir), Cynhyrchu (cynllunio, creu a mireinio allbynnau digidol gan ddefnyddio offer AI / dysgu peirianyddol sylfaenol) a Data a Meddwl Cyfrifiadurol (gan ddefnyddio data, dosbarthiad ac algorithmau i hyfforddi, profi a gwella modelau AI).


About Lafan Education 

Lafan Education supports schools, leaders, and teachers across Wales through training, consultancy, and resource development aligned with the Curriculum for Wales. The consultancy specialises in adapting educational content, resources, and programmes to meet the needs of Welsh schools, ensuring they are culturally, educationally, and linguistically relevant.

We can support organisations that wish to create or adapt content for Welsh schools. For more information visit the Lafan Education website or email post@lafan.cymru to discuss your ideas and requirements. 

Ynglŷn â Lafan Addysg

Mae Lafan Addysg yn cefnogi ysgolion, arweinwyr ac athrawon ledled Cymru drwy ddarparu hyfforddiant, ymgynghoriaeth a datblygu adnoddau sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r gwasanaeth yn arbenigo mewn addasu cynnwys, adnoddau a rhaglenni dysgu i ddiwallu anghenion ysgolion Cymru, gan sicrhau eu bod yn berthnasol yn ddiwylliannol, yn addysgol ac yn ieithyddol.

Gallwn gefnogi sefydliadau sydd am greu neu addasu cynnwys ar gyfer ysgolion Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r wefan Lafan Addysg neu ebostiwch post@lafan.cymru i drafod eich syniadau a’ch gofynion.  

Leave a comment

Create a website or blog at WordPress.com

Up ↑